86 High Street, Llanberis, Snowdonia
86 Stryd Fawr, Llanberis, Eryri
Bwyty’r Copa ydi’r lle delfrydol i ddathlu achlysur arbennig. Cewch fwyd o safon uchel iawn am bris rhesymol mewn awyrgylch croesawgar a chyfeillgar.
Ffoniwch i drafod eich anghenion.
Gallwn arlwyo ar gyfer unrhyw achlysur:
fel gwledd priodas, parti penblwydd, parti ymddeol; dathlu dyweddio neu benblwydd priodas, parti gwaith, ac yn y blaen. Am greu argraff dda ar rywun arbennig?
byddwch yn sicr o wneud hynny drwy ddod a nhw i Fwyty’r Copa.
Cysylltwch gyda ni i holi am drefnu parti preifat neu ddathliad ym Mwyty’r Copa
Yn ystod mis Rhagfyr byddwn yn agor am ginio yn y prynhawn a gyda’r nos i bartion Nadolig. Bydd angen bwcio ymlaen llaw a gofynnir am flaendal bychan i gadarnhau. Byddwn hefyd ar agor dydd Nadolig am ginio traddodiadol pump cwrs gwerth chweil. Rydym yn argymell bwcio yn fuan!
Gallwn ddarparu lluniaeth ar gyfer 65 o bobol ym mwyty’r Copa.
Cysylltwch hefo ni i drafod sut y gallwn eich helpu i sicrhau y parti neu’r cinio perffaith. Mae nifer o gwmniau yn defnyddio Bwyty’r Copa i ddiddanu cwsmeriaid neu wobrwyo eu gweithwyr.
Gallwn gallwn ddarparu gwledd priodas rhagorol ym Mwyty’r Copa. Mi gewch groeso cyfeillgar mewn awyrgylch braf. Dewch i drafod eich anghenion ar gyfer y dathliadau priodas ac fe wnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau eich bod yn dathlu eich diwrnod mawr hefo gwledd arbennig iawn.
BWYDLEN PARTI NADOLIG (esiampl)
I Ddechra
Cawl Asbaragws
Parma Ham a Melon
Madrach Maes gyda Garlleg , Perlysiau a Pharmesan
OooOOOooo
Prif Gwrs
Twrci Rhost Traddodiadol wedi ei weini gyda Selsig Chipolata ,
Stwffin Cnau Castan a llugaeron
Eog mewn saws menyn a dill
Torth gnau nadoligaidd hefo saws perlysiau
(gweinir y prif gwrs hefo llysiau tymhorol a thatws rhost)
OooOOOooo
Pwdin
Pwdin Nadolig Traddodiadol hefo Saws Gwyn
Ffrwythau’r gaeaf wedi potsio a hufen ia fanila
Caws Cheddar Aeddfed Cymreig hefo Siytni ffrwythau; gyda bara ceirch
OooOOOooo
Coffi & Siocled